Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:03 - 10:59 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Trafod sesiwn dystiolaeth 11 Tachwedd 2013
2.1P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru
2.2P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafododd yr Aelodau'r sesiynau tystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol a oedd wedi gwneud Asesiad o Effaith y Traffig, a'r hyn y gallai hynny ei ddangos o ran trin cleifion o fewn yr “awr aur”; ac ystyried sylwadau ysgrifenedig pellach y deisebwyr.
2.3P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 11 Tachwedd a chytunwyd i:
· ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru a'r Prif Gwnstabl i ofyn eu barn am y gweithgaredd anghyfreithlon honedig ar y tir comin;
· ysgrifennu at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebwyr;
· gofyn i Bwyllgor yr Amgylchedd ystyried goblygiadau'r ddeiseb wrth drafod deddfwriaeth sydd ar y gweill; ac
· ailddosbarthu’r nodyn briffio cyfreithiol sy'n rhoi crynodeb o'r mater ymhlith yr Aelodau.
2.4P-04-496 Ysgolion Pob Oed
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i:
· aros am farn y deisebwyr am yr ohebiaeth flaenorol gan y Gweinidog; ac
· ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau esgobaethol i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.5P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd ar 11 Tachwedd, a chytunwyd i roi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, ac ymhelaethu ar y materion ehangach, gan gynnwys rôl y Gwasanaeth Gyrfaoedd mewn ysgolion.
3 Deisebau newydd
3.1P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn ei farn.
3.2P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei barn am y ddeiseb; a
· grwpio'r ddeiseb gyda deisebau eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a gwneud ymchwiliad byr i'r problemau.
3.3P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.
3.4P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a’r
· Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
i ofyn eu barn am y ddeiseb, gan gynnwys sut y mae Gweinidogion wedi asesu eu dyletswyddau mewn perthynas â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
3.5P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio crynodeb byr o ymatebion y rhanddeiliaid.
4.2P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni ei datganiad yn ddiweddar, beth yw'r amserlen ar gyfer yr astudiaeth; a
· gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y Gweinidog.
4.3P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf wrth i'r camau gweithredu a awgrymwyd gan y grŵp rhanddeiliaid gael eu datblygu gan swyddogion y Gweinidog.
4.4P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am ganlyniadau'r gwaith o fonitro traffig yn y 12 mis nesaf, ac a oes unrhyw ddatblygiadau pellach gyda'r Asiantaeth Briffyrdd yn Lloegr.
4.5P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gan rannu gohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei hymholiadau i Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill.
4.6P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb pellach, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau; a
· gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y Gweinidog.
4.7P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.8P-04-508 Rhaid adfer yr olygfa o Landyfi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb y Gweinidog a nododd yn glir nad oes modd gostwng uchder y wal.
4.9P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y camau gweithredu ar y mater bellach yn nwylo'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
4.10 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn mynegi pryder ynghylch y diffyg ymateb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
4.11 P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· nodi'r sefyllfa a gofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf, yn dilyn Cyfnod 2 y Bil, ynghylch a yw'r newidiadau a wnaed wedi datrys y sefyllfa; a
· gofyn i'r deisebydd am ei sylwadau ynghylch llythyr y Gweinidog.
4.12 P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
4.13 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:
· Lunio llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog yn dwyn ynghyd yr amryfal faterion sydd wedi codi wrth drafod y ddeiseb, gan awgrymu materion i'r Gweinidog eu trafod ymhellach; a
· thrafod cau'r ddeiseb pan fydd hyn wedi'i wneud.
4.14 P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd ac sy'n bosibl ar hyn o bryd; a
· thynnu sylw'r Gweinidog at gais y deisebydd am gyfarfod i fynd i'r afael â'r materion hyn.
4.15 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd. Yn benodol:
· i ba raddau y caiff clinigwyr wyro o'r canllawiau;
· sut y cyfrifwyd yr amcangyfrif o £15-50 miliwn o arbedion, a'r rheswm am yr amrywiaeth eang yn y ddau ffigur; a
· gofyn i'r Gweinidog a yw'r canllawiau'n cael eu defnyddio yn y GIG yn rhannau eraill y DU.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor, yng ngoleuni'r cyfeiriad yn llythyr y Bwrdd Iechyd Lleol, i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr asesiad a wnaed gan yr Ymgynghorwyr Iechyd Rhywiol o'r problemau a wynebwyd gan gleifion.
4.16 P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol at y ddeiseb, a gofyn a oes ganddynt gapasiti i edrych ar y mater.
4.17 P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· nodi'r ymatebion; a
· grwpio'r ddeiseb gyda P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc, a dod yn ôl at y ddwy ddeiseb pan fydd y Gweinidog wedi gorffen ei adolygiad.
4.18 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb y deisebydd a'r Cyngor Sir.
4.19 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw'n cefnogi moratoriwm ar ddatblygu ffermydd gwynt.
4.20 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y cais cynllunio, a oedd wrth wraidd y ddeiseb, bellach wedi'i dynnu'n ôl.
4.21 P-04-469 Dileu’r Cap Rhanbarthol ar Brisiau mewn Perthynas â’r Cynllun Hawl i Brynu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid ei pholisi yn y maes hwn.
4.22 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru, a nododd eu barn yn glir.
4.23 P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd ei bod yn annhebygol y byddai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu cynllun o'r fath.
4.24 P-04-503 Adfywio Tonpentre a Phentre
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, yng ngoleuni datganiad y Gweinidog bod y Rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd wedi'i hymrwymo'n llwyr, a'i bod yn rhy fuan yn y rhaglen newydd i ystyried ceisiadau unigol.
4.25 P-04-397 Cyflog Byw
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu i ofyn pryd y maent yn bwriadu datblygu'r cynllun Cyflog Byw.
4.26 P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau am yr ymatebion a ddaeth i law
4.27 P-04-495 Rhoi Terfyn ar Fasnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan dynnu sylw at y ddeiseb fel rhan o'r gwaith y mae’r Pwyllgor yn ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â Masnachu mewn Pobl; a
· chau'r ddeiseb.
4.28 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i'w gohirio a'i thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, er mwyn i'r Pwyllgor gael amser i ystyried barn y deisebwyr am lythyr yr RSPCA.
4.29 P-04-422 Ffracio
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.
4.30 P-04-444 : Ymgyrch 'Dig for Victory'
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.
4.31 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.
4.32 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.
4.33 P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd yr eitem hon i'w thrafod ar 10 Rhagfyr 2013.